Gwybodaeth

Lleolir yr Ysgol ger Parc Y Berllan ar gyrion tref hanesyddol Talacharn. Adeiladwyd yr Ysgol wreiddiol yn y dref ei hun, ond symudwyd i’r safle presennol ac adeiladwyd yr Ysgol newydd yn 2005.

Mae’r Ysgol yn darparu addysg ar gyfer plant 4-11 mlwydd oed. Mae’r Ysgol yn un Rheoledig Gwifoddol, ac felly mae ganddo gysylltiadau agos a’r Eglwys leol.

DERBYNIADAU

Derbynnir plant yn llawn amser i’r Ysgol ar ddechrau’r tymor y maent yn 4 mlwydd oed. Fodd bynnag, bydd yr Ysgol yn trefnu sesiynnau i gyflwyno’r plant i amgylchedd yr Ysgol cyn y dyddiad derbyn. Bydd rhain yn cynnwys sesiynnau bore, prynhawn a chinio.

I wneud cais i fynychu Ysgol Lacharn, mae bellach yn angenrheidiol lenwi Cais Ar-Lein, sy’n cysylltu’n uniongyrchol a’r Adran Derbyniadau, Adran Addysg Sir Gaerfyrddin.

Dilynwch y ddolen isod. Mae’n rhaid eich bod wedi darllen Llawlyfr Derbyniadau Ysgolion a thicio’r bocs i ddangos eich bod wedi gwneud hyn, cyn bydd y cais yn cael ei dderbyn. Os oes gennych unrhyw amheuon, neu cwestiynnau ymhellach, cysylltwch a’r Ysgol.

http://www.carmarthenshire.gov.uk/Cymraeg/addysg/ysgolion/Derbyniadau/Pages/Home.aspx

AMSERLEN YR YSGOL

8.00yb – Clwb Brecwast (dewisol)
8.45yb – Mynediad i’r Ysgol
9.00yb – Dechrau’r Ysgol
10.30yb – Amser Chwarae
12.00 – Cinio
1.00yp – Sesiwn Prynhawn yn dechrau
2.00yp – Amser Chwarae
3.15yp – Diwedd y Prynhawn – Babanod
3.20yp – Diwedd y Prynhawn – Iau
3.15-4.30yh – Clwb Gofal (dewisol)

Am wybodaeth ymhellach ynglyn a’r Clwb Brecwast neu Clwb Gofal, cysylltwch a’r Ysgol.

Os nad yw cynnwys y wefan yma yn ateb eich cwestiynnau, cysylltwch a’r Pennaeth ar 01994 427228