CROESO I YSGOL TALACHARN

“Cariad at ddysgu….Cariad at fywyd”

DATGANIAD CENHADAETH

Cydweithiwn i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar o fewn ethos Gristnogol, gyda chariad tuag at ddysgu a fydd yn cael ei ysbrydoli gan addysgu o safon uchel. Crëir dysgwyr llwyddiannus ac hyderus drwy adeiladu ar gryfderau a thalentau pob unigolyn. Datblygir y sgiliau, gwybodaeth a’r agwedd bydd angen a’r blentyn i gyfrannu’n effeithiol er mwyn tyfu’n ddinasyddion cyfrifol y dyfodol.

AMCANION YR YSGOL

Prif nod yr Ysgol yw sicrhau bod pob plentyn yn hapus, diogel ac yn cael chwarae teg a chyfleoedd ym mhob agwedd o fywyd yr Ysgol. Yng ngoleuni ein gwerthoedd Cristnogol, byddwn yn:

  • Caredigrwydd – Sensitif tuag at anghenion pob plentyn. Byddwn yn dangos caredigrwydd a meithrin y plant i wneud hyn yn eu bywydau bob dydd.
  • Dyfalbarhad – Nid yw bywyd bob amser yn hawdd. Byddwn yn dysgu i’r plant i fod yn gryf a pheidio rhoi’r gorau iddi. Byddwn yn cyfleu ei bod hi’n bosib cyrraedd y nod mewn pob agwedd o fywyd os wnawn ni adeiladu ar wybodaeth flaenorol a chymryd camau bychain.
  • Cwrteisi – (Mathew 22 a34-40) “Car dy gymydog fel ti dy hun”. Bydd y staff yn trin y plant yn y ffordd sy’n ddisgwyliedig iddynt drin eraill. Byddwn yn trin pob plentyn yn deg a byddwn yn disgwyl fod y plant yn trin cymuned yr Ysgol ac ehangach gyda chwrteisi.
  • Parch – Bydd e’n ddisgwyliedig fod pob plentyn yn trin pawb a phopeth o’u hamgylch gyda pharch, boed yn adeiladau, pobl, adnoddau neu waith. Bydd y plant yn dysgu am foesau a chael cyfle i ddeall fod gan bobl gwahanol gred a gwerthoedd a dylid parchu’r rhain.
  • Gonestrwydd – Sail unrhyw berthynas llwyddiannus yw gonestrwydd. Anogi’r plant i fod yn onest hyd yn oed os byddan nhw wedi neud rhywbeth o’i le. Byddant yn dysgu fod goblygiadau fod yn onest yn gorbwyso’r rhain o fod yn anonest mewn bywyd.

Bydd cymuned yr Ysgol yn gweithio’n galed i hybu ethos o Ragoriaeth ym mhob agwedd o fywyd yr Ysgol ac yn ehangach.